Geirfa

Rhai geiriau ac ymadroddion meddygol wedi’u hesbonio

Treial rheoli ar hap

Prawf yw hwn lle rhennir grwpiau ar hap a rhoddir mathau gwahanol o driniaeth iddynt, yna cânt eu monitro i weld y gwahaniaeth rhwng y ddau. Gall hyn helpu i ddeall pa driniaethau sydd orau neu pa driniaethau sy’n niweidiol. Gall treialon rheoli ar hap fod yn 'sengl-ddall' (lle nad yw’r cyfranogwr yn gwybod pa driniaeth y mae’n ei gael) neu’n ‘ddwbl-ddall’ (lle nad yw’r cyfranogwr na’r ymchwilydd yn gwybod pa driniaeth a ddefnyddir). Y rhain fel arfer yw’r mathau mwyaf dibynadwy o dreialon.

Treialon clinigol

Treialon clinigol sy’n archwilio effeithiau gwahanol feddyginiaethau, llawdriniaethau, triniaethau seicolegol, ffisiotherapi a mathau eraill o driniaeth er mwyn canfod a ydynt yn gweithio, pa mor dda maent yn gweithio, ac ar gyfer beth a phwy y maent yn gweithio. Mae gwahanol fathau o dreialon, y gellir eu disgrifio fel ‘profion teg’. Cewch ragor o wybodaeth yma

Tuedd amser arwain

Pan gaiff cyflwr ei ddiagnosio yn gynharach, ond nid yw’n cynyddu hyd oes person. Weithiau gall wneud i rai mathau o ddiagnosis cynnar edrych yn well nag ydynt.