Geirfa
Plasebo
Defnyddir plasebo mewn ymchwil i geisio canfod pa mor dda yw triniaeth. Gwyddom fod llawer o gyflyrau’n gwella, waeth beth fo’r driniaeth. Mae defnyddio plasebo - rhywbeth sy’n edrych fel triniaeth ‘go iawn’ ond nad hynny ydyw - yn golygu y gallwn weithio allan beth mae’r driniaeth yn ei wneud mewn gwirionedd.
Profion diagnostig
Profion a gynhelir i ganfod a oes gan rywun gyflwr iechyd ai peidio. Nid yw’r canlyniadau bob amser yn glir ac fel arfer bydd angen eu hystyried yn ofalus.
Profion negatif anghywir
Pan nad yw prawf yn diagnosio fod gennych glefyd neu anhwylder ond bod problem mewn gwirionedd. Mae canlyniad y prawf yn anghywir.