Geirfa
Marciwr dirprwyol
Yn aml, po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil am amser hirach, y mwyaf dibynadwy ydynt. Ond gall fod yn anodd cynnal astudiaethau mawr iawn dros gyfnod hir o amser, gan eu bod yn ddrud i’w trefnu ac efallai y bydd ymchwilwyr eisiau atebion cyflymach. Er enghraifft, os yw cyffur wedi’i ddatblygu i atal dementia, fe gymer amser hir i weld a yw’n helpu oherwydd bydd dementia fel arfer yn cymryd blynyddoedd i ddatblygu. Efallai y defnyddir 'marciwr dirprwyol' yn lle hynny, er enghraifft, drwy wneud sganiau i edrych am newidiadau i’r ymennydd sydd gan bobl a fydd yn datblygu dementia yn ddiweddarach. Nid yw hyn mor ddibynadwy ag aros i ganfod faint o bobl sy’n mynd ymlaen i ddatblygu dementia.