Geirfa

Rhai geiriau ac ymadroddion meddygol wedi’u hesbonio

Achosiad

Pan fo un peth yn achosi rhywbeth arall, er enghraifft, gwifren wallus yn achosi tân. Caiff ei gymysgu’n aml gyda chysylltiad.

Acíwt

Rhywbeth yn digwydd yn gyflym

Adolygiadau systematig

 Ffordd o chwilio drwy’r holl ymchwil ar bwnc, gan edrych yn ofalus am ymchwil sydd heb ei gyhoeddi mewn cyfnodolion meddygol neu sydd ddim yn amlwg. Mae hyn fel arfer yn ffordd dda o wneud yn siŵr bod yr holl ymchwil yn cael ei bwyso a’i fesur cyn dod i farn ynglŷn ag a yw triniaethau’n gweithio. 

Astudiaethau ansoddol

Math o ymchwil yw hwn sy’n canfod barn pobl am eu profiadau, er enghraifft am dderbyn gofal mewn ysbyty.

Astudiaethau arsylwadol

Pan arsylwir ar grŵp o bobl er mwyn gweld beth sy’n digwydd iddynt dros amser, heb geisio newid y grŵp drwy roi rhywbeth gwahanol iddynt

Ataliad cynradd

Ceisio atal rhywbeth rhag digwydd yn y man cyntaf, er enghraifft, defnyddio meddyginiaeth i ostwng pwysedd gwaed er mwyn lleihau’r perygl o drawiad y galon.

Ataliad eilaidd

Er mwyn ceisio atal rhywbeth rhag digwydd eto, er enghraifft, os oes rhywun wedi cael strôc, nod ataliad eilaidd yw atal strôc arall rhag digwydd.

Atwrneiaeth

Dogfen gyfreithiol y mae pobl yn ei llunio er mwyn caniatáu i berson yr ymddiriedir ynddynt wneud penderfyniadau ar eu rhan. Gellir ei defnyddio os yw’r person yn mynd yn rhy sâl i wneud y penderfyniadau dros ei hun yn y dyfodol. Mae gwahanol fathau o atwrneiaethau ar gyfer gwahanol fathau o benderfyniadau yn ymwneud ag iechyd neu gyllid.

CPR

Dadebru cardio-anadlol. Defnyddir hyn pan fo person yn anymwybodol ac nid oes ganddo ef neu hi bwls, er mwyn ceisio ail-ddechrau’r galon. Gwasgir y frest i fyny ac i lawr. Efallai yr agorir y geg, a bydd yr achubwr yn anadlu i geg y person anymwybodol. 

Canlyniad

Canlyniad a allai fod yn dda neu’n ddrwg - megis gwelliant yn y gallu i gerdded, neu gael rhagor o boen.

Canlyniadau negatif anghywir

Pan fo canlyniad prawf yn normal ac nid yw’n diagnosio cyflwr.

Canlyniadau positif anghywir

Pan fo canlyniad prawf yn rhoi diagnosis bod gennych gyflwr pan nad oes gennych y cyflwr hwnnw.

Cronig

para am gyfnod hir, am byth o bosibl.

Cymdeithas

Mae'r berthynas rhwng dau beth, er enghraifft, ennill mwy o arian yn gysylltiedig â byw'n hirach. Yn aml mae'n cael ei ddrysu ag achosiaeth.  

Cynllun gofal

Dogfen lle mae anghenion a gwerthoedd unigolyn yn cael eu hysgrifennu ynghyd â chynllun i'w diwallu. 

Cysylltiad

Y berthynas rhwng dau beth, er enghraifft, cysylltir ennill arian gyda byw’n hirach. Caiff ei gymysgu’n aml gydag achosiad.

DNR

Peidio Dadebru

Datganiadau i’r wasg

Cyhoeddir y rhain gan gyfnodolion meddygol, prifysgolion, cwmnïau ymchwil a chwmnïau masnachol a’u hanfon i sianeli teledu, radio a phapurau newydd, er mwyn rhoi sylw i’w gwaith. Mae rhai datganiadau i’r wasg yn ceisio egluro cysyniadau anodd fel bod y sylw yn y wasg yn gywir. Mae rhai datganiadau i’r wasg yn gorliwio’r honiadau. Mae NHS Behind the Headlines yn aml yn ymchwilio’r mathau hyn o storïau. 

Effaith nosebo

Y gwrthwyneb i effaith plasebo, pan fo plasebo fel petai’n rhoi sgil effeithiau yn hytrach na buddion

Ffenylcetonwria

Cyflwr prin y caiff pobl eu geni ag ef, lle bo bwyta bwydydd penodol yn achosi difrod i’r ymennydd. Gellir osgoi hyn drwy ddeiet arbennig.

Ffug

Term arall am blasebo, ond a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio ‘llawfeddygaeth ffug’ lle mae cleifion naill ai’n cael llawdriniaeth ‘go iawn’ neu weithdrefn sy’n teimlo ac yn edrych fel llawdriniaeth go iawn, ond nid dyna ydyw.

Gofal lliniarol

Pan fo’r driniaeth wedi’i chynllunio i wella ansawdd bywyd y person. Mae’n bwysig gwybod y gellir dechrau gofal lliniarol yn bell iawn o’r adeg lle disgwylir marwolaeth.

Gorddiagnosis

Pan fydd pobl yn cael eu diagnosio gyda chyflwr ond nid yn cael unrhyw fantais o’r wybodaeth honno.

Gwarcheidiaeth

Term cyfreithiol ar gyfer oedolyn neu blentyn sy’n gofalu am hawliau rhywun sydd heb y ‘galluedd’ neu’r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain

Marciwr dirprwyol

Gall fod yn anodd cynnal astudiaethau mawr dros gyfnod hir o amser. Efallai y bydd ymchwilwyr am gael atebion cyflymach. Er enghraifft, os yw cyffur wedi’i ddatblygu i atal dementia, fe gymer amser hir i weld a yw’n helpu oherwydd bydd dementia fel arfer yn cymryd blynyddoedd i ddatblygu. Efallai y defnyddir 'marciwr dirprwyol' yn lle hynny, er enghraifft fel newidiadau i’r ymennydd ar sgan sydd gan bobl a fydd yn datblygu dementia yn ddiweddarach. Nid yw hyn mor ddibynadwy ag aros i ganfod faint o bobl sy’n datblygu dementia.

NICE

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal

NNH

Nifer sydd eu hangen i niweidio. Os oedd yr NNH yn 10, yna byddai angen trin 10 o bobl a byddai un yn cael ei niweidio.

NNT

Nifer sydd eu hangen i drin. Pe bai’r NNT yn 10, yna byddai angen i 10 o bobl gael y driniaeth er mwyn iddi weithio i un person.

Plasebo

Defnyddir plasebos mewn ymchwil i geisio canfod pa mor dda yw triniaeth. Gwyddom fod llawer o gyflyrau’n gwella waeth beth fo’r driniaeth. Mae defnyddio plasebo - rhywbeth sy’n edrych fel triniaeth ‘go iawn’ ond nad hynny ydyw - yn golygu y gallwn weithio allan beth mae’r driniaeth yn ei wneud mewn gwirionedd.

Profion diagnostig

Profion a gynhelir i ganfod a oes gan rywun gyflwr iechyd ai peidio. Nid yw’r canlyniadau bob amser yn glir ac fel arfer bydd angen eu hystyried yn ofalus.

Profion negatif anghywir

Pan nad yw prawf yn diagnosio fod gennych glefyd neu anhwylder ond bod problem mewn gwirionedd. Mae canlyniad y prawf yn anghywir.

Risg absoliwt

Dyma ffordd o ddisgrifio’r siawns y bydd rhywbeth yn digwydd. Er enghraifft, gall risg y bydd rhywbeth yn digwydd gynyddu gan 5% i 6% - y risg absoliwt fyddai 1%. Caiff ei gymysgu’n aml gyda risg cymharol.

Risg cymharol

Dyma ffordd i ddisgrifio siawns, a fesurir mewn cymhariaeth â siawns arall. Er enghraifft, efallai y bydd cyffur yn lleihau’r risg o drawiad y galon gan 50%. Er mwyn deall beth mae hyn yn ei olygu, mae’n rhaid i ni wybod beth oedd ein risg i ddechrau. Er enghraifft, pe bai ein risg o ddioddef trawiad y galon yn 60%, gallai’r cyffur leihau’r risg i 30% (hanner 60%). Ond pe bai ein risg yn 2%, byddai’r cyffur yn lleihau’r risg i 1% (hanner 2%).

Sgrinio

Mae hyn yn golygu fod pobl sy’n credu eu bod yn iach yn cael profion i ganfod a ydynt mewn risg o gyflyrau penodol ai peidio. Os oes gan rywun symptom, nid yw profion sgrinio yn berthnasol - maent ar gyfer pobl sydd heb symptomau yn unig.

Symptomau

Pan fod pobl yn teimlo bod rhywbeth o’i le, er enghraifft, twymyn, peswch, cyffuriau dolurus neu’r ffliw, neu lwmp ar y fron a allai fod yn symptom o ganser. Teimlir symptomau gan y person sy’n eu cael.

Treial rheoli ar hap

Prawf yw hwn lle rhennir grwpiau ar hap a rhoddir mathau gwahanol o driniaeth iddynt, yna cânt eu monitro i weld y gwahaniaeth rhwng y ddau. Gall hyn helpu i ddeall pa driniaethau sydd orau neu pa driniaethau sy’n niweidiol. Gall treialon rheoli ar hap fod yn 'sengl-ddall' (lle nad yw’r cyfranogwr yn gwybod pa driniaeth y mae’n ei gael) neu’n ‘ddwbl-ddall’ (lle nad yw’r cyfranogwr na’r ymchwilydd yn gwybod pa driniaeth a ddefnyddir). Y rhain fel arfer yw’r mathau mwyaf dibynadwy o dreialon.

Treialon clinigol

Treialon clinigol sy’n archwilio effeithiau gwahanol feddyginiaethau, llawdriniaethau, triniaethau seicolegol, ffisiotherapi a mathau eraill o driniaeth er mwyn canfod a ydynt yn gweithio, pa mor dda maent yn gweithio, ac ar gyfer beth a phwy y maent yn gweithio. Efallai y bydd gwahanol fathau o dreialon, y gellir eu disgrifio fel ‘profion teg’.Rhagor o wybodaeth

Tuedd amser arwain

Pan gaiff cyflwr ei ddiagnosio yn gynharach ond nid yw’n cynyddu hyd bywyd person. Weithiau gall wneud i rai mathau o diagnosis cynnar edrych yn well nag ydynt.

Ymwrthedd i wrthfiotigau

Pan fo bacteria yn gallu goroesi hyd yn oed pan gaiff ei drin â gwrthfiotigau penodol.

Ymwthiol

Mae fel arfer yn golygu triniaeth neu brawf sydd angen mynd i mewn i’r corff, neu gyflwr fel canser sydd wedi ymledu drwy feinweoedd