Geirfa
Risg absoliwt
Dyma ffordd o ddisgrifio’r siawns y bydd rhywbeth yn digwydd, e.e. gall tabledi leihau’r risg o gael trawiad ar y galon o 10% i 5%, mewn geiriau eraill mae’r risg absoliwt yn newid gan 5%. Mae’n golygu'r siawns cyfan y bydd rhywbeth yn digwydd.
Caiff ei gymysgu’n aml gyda risg cymharol. Y risg cymharol yw’r siawns bod un peth yn digwydd mewn cyfrannedd i un arall. Yn yr un enghraifft, caiff y risg o gael trawiad ar y galon ei dorri gan 50% (hanner), gan fod 5% yn hanner 10%).
Risg cymharol
Y risg cymharol yw’r siawns bod un peth yn digwydd mewn cyfrannedd i un arall. Er enghraifft, gall tabled leihau’r risg o gael trawiad ar y galon o 10% i 5%. Mae hyn yn golygu bod y risg o gael trawiad ar y galon yn cael ei dorri gan 50% (hanner), gan fod 5% yn hanner 10%.
Caiff ei gymysgu’n aml gyda risg absoliwt. Yn yr enghraifft hon, mae’r risg absoliwt yn newid o 10% i 5%, gan olygu bod cwymp gan 5% mewn achosion o drawiad ar y galon. Yn aml bydd risgiau cymharol yn gwneud i driniaethau edrych yn dda iawn. Gan fod risgiau cymharol yn cymharu un siawns gydag un arall (cael trawiad ar y galon o gymharu â dim cael trawiad ar y galon) mae angen i ni wybod y risg o drawiad ar y galon i ddechrau, er mwyn deall y rhifau.