Geirfa
Sgrinio
Mae hyn yn golygu fod pobl sy’n credu eu bod yn iach yn cael profion i ganfod a oes ganddynt risg o ddatblygu cyflyrau penodol ai peidio. Os oes gan rywun symptom, nid yw profion sgrinio yn berthnasol - maent ar gyfer pobl sydd heb symptomau yn unig.
Symptomau
Pan fod pobl yn teimlo bod rhywbeth o’i le, er enghraifft, twymyn, peswch, cyhyrau dolurus neu’r ffliw, neu lwmp ar y fron a allai fod yn symptom o ganser. Teimlir symptomau gan y person sy’n eu cael.