Geirfa

Rhai geiriau ac ymadroddion meddygol wedi’u hesbonio

Achosiad

Pan fo un peth yn achosi rhywbeth arall, er enghraifft, gwifren wallus yn achosi tân. Caiff ei gymysgu’n aml gyda chysylltiad.

Acíwt

Rhywbeth yn digwydd yn gyflym

Adolygiadau systematig

Ffordd o chwilio drwy’r holl ymchwil ar bwnc, gan edrych yn ofalus am ymchwil sydd heb ei gyhoeddi mewn cyfnodolion meddygol neu sydd ddim yn amlwg. Mae hyn fel arfer yn ffordd dda o wneud yn siŵr bod yr holl ymchwil yn cael ei bwyso a’i fesur cyn dod i farn ynglŷn ag a yw triniaethau’n gweithio.

Astudiaethau ansoddol

Math o ymchwil yw hwn sy’n canfod barn pobl am eu profiadau, er enghraifft ynglŷn â gofal mewn ysbyty.

Astudiaethau arsylwadol

Pan arsylwir ar grŵp o bobl er mwyn gweld beth sy’n digwydd iddynt dros amser, heb geisio newid y grŵp drwy roi rhywbeth gwahanol iddynt.

Ataliad cynradd

Ceisio atal rhywbeth rhag digwydd yn y man cyntaf, er enghraifft, defnyddio meddyginiaeth i ostwng pwysedd gwaed er mwyn lleihau’r perygl o drawiad y galon.

Ataliad eilaidd

Er mwyn ceisio atal rhywbeth rhag digwydd eto, er enghraifft os oes rhywun wedi cael strôc, nod ataliad eilaidd yw atal strôc arall rhag digwydd.

Atwrneiaeth

Dogfen gyfreithiol y mae pobl yn ei llunio er mwyn caniatáu i berson yr ymddiriedir ynddo/ynddi wneud penderfyniadau ar ei ran, os bydd yn mynd yn rhy sâl i wneud penderfyniadau dros ei hun. Mae gwahanol fathau o atwrneiaethau ar gyfer gwahanol fathau o benderfyniadau yn ymwneud ag iechyd neu gyllid.